Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Chwaraewyr rygbi ar draws Cymru yn helpu i fynd i’r afael a chlefyd gwaed

Wrth i Gymru ymhyfrydu yn y rygbi, mae chwaraewyr o dimau lleol ar draws y wlad yn galw ar y gymuned rygbi i ymuno â nhw i geisio ennill y gêm yn erbyn canser gwaed, ar ôl iddynt roi mêr esgyrn i bobl mewn angen o bob cwr o’r byd, ac achub eu bywydau.

Cafodd y chwaraewyr rygbi Ioan Evans, Robert Jones a Craig Simms eu dewis oddi ar Gofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru fel yr unig roddwyr addas yn y byd oedd yn cydweddu ac a oedd yn gallu achub eu cleifion, er gwaetha’r ffaith eu bod nhw’n byw miloedd o filltiroedd ar wahân. I lawer o gleifion, rhoddion fel y rhain yw’r unig gyfle iddynt oroesi, eto dim ond 60 y cant o bobl fydd yn dod o hyd i rywun sydd yn cydweddu â nhw ac a allai achub eu bywydau.

Mae gan fy mhartner a minnau aelodau o’r teulu sydd wedi dioddef o ganser y gwaed, felly rydym wedi gweld o y gwahaniaeth mae’n gallu ei wneud o lygaid y ffynnon.

Robert Jones

Nawr, maen nhw’n annog pobl eraill i wneud yr un peth fel rhan o ymgyrch #AchubwrBywydCŵl Gwasanaeth Gwaed Cymru, sy’n ceisio annog pobl ifanc 17-30 oed i ofyn am gael ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru y tro nesaf y byddant yn dod i roi gwaed.

Roedd Robert Jones, 27, eisiau gwneud unrhyw beth o fewn ei allu i helpu teuluoedd fel ei deulu ef, ar ôl i’w dad-cu farw o lewcemia, felly penderfynodd ymuno â’r gofrestr mêr esgyrn.

Meddai Robert: “Mae gan fy mhartner a minnau aelodau o’r teulu sydd wedi dioddef o ganser y gwaed, felly rydym wedi gweld o y gwahaniaeth mae’n gallu ei wneud o lygaid y ffynnon.

“Roedd gen i rwydwaith cymorth gwych; mae fy ffrindiau a fy nheulu yn dal i ddweud pa mor falch ydyn nhw ohonof am ymuno â’r gofrestr ac am roi fy mêr esgyrn – mae fy mam-gu yn mynd yn eithaf emosiynol oherwydd fy mod i wedi gwneud hyn er cof am fy nhad-cu.

“Doedd y bechgyn rwy’n chwarae rygbi â nhw yng Nghlwb Rygbi Cross Keys ddim yn gallu credu fy mod i’n mynd trwy hyn i rywun doeddwn i erioed wedi eu cyfarfod o’r blaen. Dwi eisiau addysgu’r chwaraewyr a gwneud popeth o fewn fy ngallu i gael gymaint o’r tîm â phosib ar y gofrestr!

“Cefais bythefnos i ffwrdd ar ôl y llawdriniaeth i wella’n iawn, ac yna, es yn ôl i’r gwaith ac i chwarae rygbi. Rwy’n teimlo mor lwcus fy mod i wedi cael fy newis o banel o roddwyr ar draws y byd, a fy mod i wedi cael y cyfle i helpu rhywun mewn angen."

 

Dywedodd Ioan, 27 oed, sy'n wreiddiol o Gwmtwrch yng Nghwm Tawe: "Mae’n hawdd ymuno, ac rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny. Dwi wedi newid bywyd rhywun oherwydd hynny. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw dod o hyd i glinig rhoi gwaed yn eich ardal, a rhoi gwybod iddynt eich bod chi eisiau ymuno â'r gofrestr mêr esgyrn. Dwi wedi bod ar y gofrestr ers i mi allu ymuno gyntaf yn 17 oed; flynyddoedd yn ddiweddarach, cefais fy mharu â'r bachgen bach hwn o'r diwedd.

"Mae 'na gamsyniad bod rhoi mêr esgyrn yn boenus iawn a bod nodwyddau enfawr yn cael eu defnyddio, ond roedd yn broses eithaf syml. Ar ôl y llawdriniaeth, fe wnes i ddeffro a gofyn os oeddwn i wedi cael y llawdriniaeth, am nad oeddwn i'n gallu teimlo unrhyw boen.

"Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol y broses - fy mhartner, fy ngwaith, ac aelodau eraill o’r tîm. Dwi’n chwarae i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd, clwb rygbi Cymraeg yng Nghaerdydd, a dwi’n helpu i reoli tîm rygbi Merched y Gweilch. Ar ôl y rhodd, cymerais ychydig o amser i ffwrdd o chwarae, ond fe wnes i barhau i fynd i'r gemau i gefnogi'r timau!

"Dwi'n dal i feddwl am y bachgen ifanc, ei deulu a phopeth maen nhw wedi mynd trwyddo. Hoffwn eu cyfarfod nhw un diwrnod."

Cafodd yr athro Addysg Gorfforol Craig Simms, 26 oed, ei ysbrydoli i ymuno â'r gofrestr ar ôl i aelod o’i dîm yng Nghlwb Rygbi Tonyrefail dderbyn rhodd mêr esgyrn ac ar ôl gwella’n llwyr, mae'n dal i chwarae rygbi gydag ef heddiw.

"Mae llawer o fy ffrindiau a fy nheulu yn gweithio yn y GIG, felly roedden nhw'n arbennig o falch ohona i, gan eu bod nhw’n gweld pobl mewn angen bob dydd. Fe wnes i weld pa mor gyflym y gwnaeth fy ffrind wella ar ôl cael trawsblaniad mêr esgyrn, ac fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i roi mêr esgyrn.

"Dwi’n teimlo'n lwcus dros ben fy mod i wedi cael fy newis, ac wedi cael y cyfle i ddod yn achubwr bywyd."

Mae yna hyd at 20,000 o bobl yn aros i ddod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw, ac mae Emma Cook, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, yn annog mwy o bobl i ystyried ymuno y tro nesaf maen nhw’n rhoi gwaed:

“Mae cymuned rygbi Cymru wedi bod yn gefnogol iawn o’r gofrestr, ac mae nifer fawr o’n rhoddwyr diweddar wedi cael rhyw gysylltiad â’r gêm, a naill ai’n ei chwarae neu’n ei hyfforddi. Rydyn ni mor lwcus i gael cymaint o bobl o’r byd chwaraeon sy’n cefnogi ein hachos.

“Dim ond 30 y cant o bobl sydd angen rhodd sy’n gallu dod o hyd i rywun sy’n cydweddu o fewn eu teulu eu hunain, a dyna pam ein bod ni mor ddiolchgar i bobl fel Ioan, Robert a Craig sydd wedi bod mor anhunanol, ac wedi rhoi i rywun mewn angen.

“Mae’r siawns o ddod o hyd i rywun sy’n cydweddu â chi yn isel, a dyna pam ei fod mor bwysig gwneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosib sy’n byw yng Nghymru yn cofrestru i achub bywydau gyda Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.

“Os oes unrhyw un rhwng 17-30 mlwydd oed eisiau gwneud rhywbeth anhygoel, mae ymweld â chlinig Gwasanaeth Gwaed Cymru a gofyn am gael ymuno â’r gofrestr yn ffordd wych o gychwyn.”

Ydych chi rhwng 17-30 oed? Dysgwch fwy am ymuno â'r gofrestr mêr esgyrn sy’n gallu achub bywydau yma.

Cofrestrwch heddiw