Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Rhowch y rhodd orau i rywun y Nadolig hwn drwy roi gwaed

Mae mam a oedd angen trallwysiadau gwaed yn ystod ei beichiogrwydd a dyn sy'n dibynnu ar roddion gwaed rheolaidd yn annog cymunedau ar draws Cymru i roi'r 'rhodd orau' y Nadolig hwn drwy roi gwaed.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn paratoi i wynebu pwysau'r Gaeaf ar ei wasanaethau, ac mae'n gobeithio y bydd eu hymgyrch Nadolig newydd, sef 'yr anrheg orau', yn helpu i godi ymwybyddiaeth am y gwahaniaeth mae rhoi gwaed yn ei wneud.

Heb haelioni rhoddwyr gwaed, yn syml iawn, ni fuasen ni’n rhieni.

Shelley

Cafodd Shelley Parry, sy'n fam i ddau o blant, drallwysiadau gwaed yn syth i mewn i’w groth i gadw ei merched heb eu geni yn fyw yn ystod y ddau feichiogrwydd.

Meddai Shelley: "Derbyn gwaed yw'r anrheg orau mae'r merched erioed wedi'i chael. Fe fyddwn yn ddiolchgar am byth fel teulu i'r rheini sydd wedi cymryd yr amser i roi gwaed. Heb haelioni rhoddwyr gwaed, yn syml iawn, ni fuasen ni’n rhieni. Diolch i'w gweithred anhunanol nhw, gallwn edrych ymlaen at y Nadolig gyda'n gilydd fel teulu.

"Dim ond awr o'ch amser mae'n ei gymryd i roi gwaed felly os allwch chi, ystyriwch roi gwaed."

Mae Giggs Kanias yn cefnogi’r ymgyrch hefyd. Mae Giggs wedi derbyn dros 1,000 o drallwysiadau gwaed ers iddo gael ei eni, fel rhan o'i driniaeth ar gyfer beta thalassaemia, sef anhwylder gwaed difrifol. Diolch i roddwyr gwaed, mae Giggs yn edrych ymlaen at ddathlu'r Nadolig gyda'i deulu.

Meddai Giggs: "Rydw i mor ddiolchgar i'r bobl anhygoel sy'n rhoi gwaed. Pan fyddaf yn yr ysbyty, rwy'n syllu ar y bagiau gwaed sy'n cael eu trallwyso mewn i mi ac yn meddwl bob amser, pwy yw'r person sydd wedi fy helpu?

"Rwy'n gwybod y gwahaniaeth mae'r bobl hyn wedi'i wneud i fy mywyd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt. Heb eu haelioni, fuaswn i ddim yma heddiw, fuaswn i ddim yn dad, nac wedi cael cyfle i weld fy merch yn tyfu fyny. Derbyn gwaed yw'r rhodd orau y gallai unrhyw un ei chael."

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: "I gleifion fel Giggs, derbyn gwaed fydd yr anrheg orau maen nhw'n ei dderbyn y Nadolig hwn. Dyma'r rhodd orau y gallwch ei rhoi.

"Mae gan gynnyrch gwaed oes silff fer, ac mae ysbytai angen gwaed 365 diwrnod y flwyddyn, gan gynnwys ar ddydd Nadolig, i helpu i gefnogi cleifion mewn angen, a dyna pam na allwn roi'r gorau i gasglu gwaed."

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn darparu cynnyrch gwaed i 20 o ysbytai ar draws Cymru ac i bedair awyren Ambiwlans Awyr Cymru i'w defnyddio mewn argyfwng.

Mae Alan yn parhau: "Mae'n bwysig dros ben bod y gwasanaeth yn paratoi. Mae angen inni gynyddu stociau gwaed cyn gaeaf a allai fod yn heriol, lle gall salwch tymhorol a Covid-19 waethygu'r pwysau gaeaf arferol sydd yn cael ei wynebu gan y GIG.

"Rydym yn estyn allan at gymunedau ar draws Cymru i ofyn iddynt roi rhodd o waed sy'n achub bywydau, a rhoi'r 'rhodd orau' y Nadolig hwn."

Gwnewch rywbeth anhygoel y Nadolig hwn. Rhowch yr anrheg orau i rywun. Rhowch waed.

Gwnewch apwyntiad heddiw