Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Annog y genhedlaeth iau i “helpu i frwydro yn erbyn canser y gwaed.”

Bone marrow donor Julie Penkith

Mae’r person cyntaf erioed i roi mêr esgyrn yng Nghymru yn galw ar fwy o bobl ifanc 17 i 30 oed i helpu i frwydro yn erbyn canser y gwaed cyn Diwrnod Canser y Byd (dydd Gwener 4 Chwefror).

 

Bob blwyddyn, ni fydd tri o bob deg o gleifion canser y gwaed yn dod o hyd i rywun y mae eu mêr esgyrn yn cydweddu â nhw ac a allai achub eu bywydau, a dyna pam mae Julie Penketh o Ystrad Mynach a Gwasanaeth Gwaed Cymru yn annog mwy o bobl i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.

Ers rhoi ei bôn-gelloedd dri deg mlynedd yn ôl, mae Julie wedi parhau i annog pobl eraill i ofyn am gael ymuno yn eu sesiynau rhoi gwaed, neu drwy ddychwelyd pecyn swab heb nodwydd, y gallwch ei archebu ar-lein mewn munudau, ac sydd yn gallu cael ei anfon i’ch cartref.

Gallech chi fod yr un person, a’r unig berson yn y byd, a allai fod yn cydweddu â chlaf.

Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru

Meddai Julie: “Os ydych chi’n ffit, yn iach a rhwng 17 a 30 oed, mae’n rhaid i chi ystyried ymuno â’r Gofrestr. Dim ond ychydig funudau mae’r gwasanaeth pecyn swab newydd yn ei gymryd, a gallwch ei wneud ym mhreifatrwydd eich cartref ar adeg sy’n addas i chi, a gallech fynd ymlaen i achub bywyd rhywun.

“Mae meddwl y gallwn fod wedi helpu rhywun mewn angen yn deimlad grêt, ac rwy’n gobeithio y bydd mwy o bobl yn dod ymlaen, yn gwybod y gwahaniaeth y gallant ei wneud. Ar y cyfan, roedd fy mhrofiad o roi gwaed yn un positif iawn, a fuaswn i ddim yn meddwl ddwywaith am wneud yr un peth eto.

“Mae gen i blant ac wyrion ac wyresau nawr. Gobeithio na fydd yr un ohonynt angen trawsblaniad fel hyn, ond dydych chi byth yn gwybod. Buaswn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i wneud rhywbeth anhygoel heddiw, a chofrestru i ymuno â’r panel.”

Mae canserau gwaed yn atal mêr esgyrn rhag gweithio’n gywir ac i’r cleifion hyn, y gobaith gorau o wella yw cael trawsblaniad bôn-gelloedd. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn chwilio drwy gofrestri ar draws y byd bob dydd am roddwyr bôn-gelloedd addas sy’n cydweddu â’u cleifion canser y gwaed.

Darganfyddwch fwy am swabiau.

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi nawr ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru heb orfod gadael eich cartref?

Gofynnwch am becyn swab heddiw.

Cofrestrwch nawr

Esboniodd Dr Keith Wilson, Haematolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru: “Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn chwilio bob dydd, ac ar frys, ar ran cleifion canser y gwaed, am roddwr y mae eu mêr esgyrn yn addas ar eu cyfer.

Mae’r gofynion ar gyfer paru claf â rhoddwr mêr esgyrn yn benodol iawn, a dyna pam mae angen inni barhau i gynyddu nifer y bobl ar y Gofrestr. Dyma’r ffordd orau o roi cyfle i fwy o gleifion canser y gwaed i oresgyn y clefyd.”

Ar hyn o bryd, mae dros 50,000 o gleifion ar draws y byd yn gobeithio dod o hyd i roddwyr sydd ddim yn perthyn, y mae eu mêr esgyrn yn cydweddu â nhw.

Meddai Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru: “Mae’r siawns o gael eich dewis fel rhywun sy’n cydweddu’n berffaith â chlaf yn unrhyw le yn y byd yn eithriadol o brin, ond mae’r cyfle i ddod o hyd i rywun sy’n cydweddu yn cynyddu wrth i fwy o roddwyr gofrestru.

“Mae’n gysyniad ysbrydoledig. Gallech chi fod yr un person, a’r unig berson yn y byd, a allai fod yn cydweddu â chlaf – a dyna pam mae angen mwy o bobl arnom i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru a chynyddu siawns claf o oroesi.”

Kelly's daughter looking after her

Os ydych chi rhwng 17 a 30 oed, ddechrau ar eich taith yn y frwydr yn erbyn canser y gwaed.

Cofrestrwch