Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Alan Prosser yn cael ei gyhoeddi fel Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru

Alan Prosser outside WBS HQ

Cyhoeddodd Prif Swyddog Gweithredu Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Cath O’Brien, ddydd Gwener 15 Ebrill fod Alan Prosser wedi’i benodi’n barhaol fel Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Ymunodd â Gwasanaeth Gwaed Cymru i ddechrau ym mis Mehefin 2008 fel y Rheolwr Cyffredinol a’r Dirprwy Gyfarwyddwr. Mae Alan wedi treulio’r tair blynedd diwethaf yn Gyfarwyddwr Dros Dro. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Alan wedi arwain y sefydliad drwy’r pandemig parhaus tra’n goruchwylio’r gwaith o weithredu nifer o brosiectau allweddol, gan gynnwys argymhellion Grŵp Llywio FAIR (For the Assessment of Individualised Risk). Mae hyn wedi galluogi mwy o bobl nag erioed o’r blaen i fod yn gymwys i roi gwaed yn ddiogel, gan gefnogi prosiect treialon clinigol rhyngwladol plasma ymadfer yn y frwydr yn erbyn COVID-19 a’r broses genedlaethol o gyflwyno brechiadau COVID-19 ledled Cymru.

Rwy’n awyddus i barhau â’r llwyddiant hwn dros y blynyddoedd nesaf.

Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru

“Mae wedi bod yn fraint wirioneddol arwain sefydliad mor hynod dros y tair blynedd diwethaf, y mae’r mwyafrif helaeth ohono wedi bod yn ystod y cyfnod mwyaf cythryblus yn ystod pandemig COVID-19”, meddai Alan ar ôl cael ei benodi i’r rôl yn barhaol.

“Mae lefel dyfeisgarwch, dyfalbarhad ac ymrwymiad holl staff Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.

“Rwy’n awyddus i barhau â’r llwyddiant hwn dros y blynyddoedd nesaf.”

Dewch o hyd i’ch sesiwn rhoi gwaed agosaf

Dechrau ar eich taith achub bywyd

Dywedodd Cath O’Brien, “Daw’r penodiad ar adeg o gyfle gwych i Wasanaeth Gwaed Cymru wrth iddo gwblhau ei strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.”

“Edrychwn ymlaen at ddatblygu cyfleoedd cyffrous i Wasanaeth Gwaed Cymru, Canolfan Ganser Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i gydweithio wrth i ni wasanaethu pobl Cymru.”

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi parhau i weithredu drwy’r pandemig gyda chymorth staff a rhoddwyr hael yn cymryd yr amser i roi.