Ar hyn o bryd, mae stociau gwaed yng Nghymru mewn sefyllfa iach diolch i'r gefnogaeth barhaus gan ein rhoddwyr.
Rydym yn gofyn i bob rhoddwr barhau gyda’u harferion rhoi gwaed presennol, ac ymateb i unrhyw wahoddiadau y gallant eu derbyn i roi gwaed.
Mae hyn yn ein helpu i sicrhau y byddwn yn parhau i gael y swm cywir o bob math o waed ar gyfer cleifion ar draws y wlad.
Os nad ydych chi erioed wedi rhoi gwaed, mae nawr yn amser gwych i roi cynnig arni.