Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Chwaraewyr cynghrair domestig Cymru yn mynd am y triphwynt wrth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gyflwyno pwynt bonws am hatric

Bydd y penderfyniad yn golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno pwynt bonws ar gyfer hatric yn ei gemau yng Nghynghreiriau JD Cymru ac Adran Genero, waeth beth yw'r sgôr terfynol. irrespective of the final score.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd pwynt bonws yn cael ei ddyfarnu yn awtomatig o ddechrau tymor 2023/24 am bob hatric sydd yn cael ei sgorio yn ystod unrhyw gemau Cynghreiriau JD Cymru a Chynghreiriau Genero Adran, mewn ymgais i wneud pob eiliad i gyfrif.

Ar hyn o bryd, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dyfarnu tri phwynt am fuddugoliaeth ac un am gêm gyfartal, a bydd y dyfarniad sgorio ychwanegol hwn yn ychwanegu dimensiwn arall i gemau cynghrair deinamig.

Mae hatric yn cael ei ystyried gan bawb fel un o'r anrhydeddau mwyaf i chwaraewr, ac mae cefnogwyr eisoes wedi gweld cyfanswm o 58 o hatrics ar draws Cynghreiriau JD Cymru a Chynghreiriau Adran Genero y tymor hwn.

Mae tarddiad yr hatric yn dal i fod yn destun anghydfod - mae un ddamcaniaeth yn awgrymu bod y syniad yn dod yn wreiddiol o'r byd criced, ac a gyflwynwyd yn yr 16fed eg ganrif ar gyfer bowliwr sy'n curo tri batiwr, un ar ôl y llall â'r un bêl - ac sy’n derbyn het newydd fel ei wobr.

Dywedodd Oli Farslop, Cadeirydd Bwrdd y Cynghreiriau Cenedlaethol: "Mae hatric wir yn ychwanegu cyffro i unrhyw gêm, a bydd pwynt bonws yn sicrhau bod pob eiliad yn cyfrif. Rydyn ni'n gwybod bod cefnogwyr eisiau gweld goliau, ac rydym yn hyderus y bydd y pwynt ychwanegol yn helpu i gynyddu nifer y goliau sydd yn cael eu sgorio fesul gêm.

"Mae pwyntiau bonws eisoes wedi cael eu cyflwyno'n llwyddiannus mewn mannau eraill, gan gynnwys rygbi a Fformiwla Un. Mae gwneud newidiadau i'r cynghreiriau fel hyn yn dangos ymrwymiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i arloesi ac mewn darparu cynnyrch i wneud Cymru'n falch.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld effaith y newid yma ar dymor 2023/24.

Oli Farslop

Mae'r newid eisoes wedi cael cefnogaeth gan Bartneriaid Cymunedol, Gwasanaeth Gwaed Cymru. Wrth sôn am y cyhoeddiad hwn, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser: "Rydyn ni'n gwbl gefnogol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, gan y bydd hyn yn gwneud gêm hyd yn oed yn fwy cyffrous i wylwyr a chefnogwyr, sydd hefyd wedi cefnogi ein hymgyrch ni.

"Rydym yn gobeithio y bydd y newid hwn yn parhau i daflu’r goleuni ar ein gwaith gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr ar draws y cynghreiriau sy'n parhau i'n cefnogi ochr yn ochr â'u clybiau. Mae ein hymgyrch genedlaethol Gwaed, Chwys ac Iechyd Da yn parhau i fod yn llwyddiant ysgubol, ac mae o bosibl wedi achub bywydau dros 2,500 o gleifion mewn angen ar draws Cymru. Mae'r bartneriaeth yn dangos yr effaith hynod gadarnhaol y gall pêl-droed ei chael ar y gymuned ehangach."

Dewch o hyd i sesiwn rhoi gwaed yn eich ardal chi.

Mae clybiau ar draws Cymru wedi bod yn annog cefnogwyr i gefnogi’r ymgyrch ar y cae ac oddi arno, i dynnu sylw at bwysigrwydd rhoi gwaed, platennau a mêr esgyrn. Dim ond gan roddwyr gwirfoddol y gellir cael y cynnyrch achub bywyd hyn, ac mae eu hangen bob dydd i helpu cleifion, gan gynnwys y rheini sydd mewn damweiniau, sy’n cael trawsblaniadau organau, sy’n feichiog ac sydd â mathau penodol o ganser fel lewcemia.

Mae angen i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu 350 o roddion gwaed bob un dydd i gyflenwi 20 ysbyty gyda digon o waed i gleifion, i gefnogi triniaethau achub bywyd. Gyda thua 100,000 o roddion gwaed bob blwyddyn gan 70,000 o roddwyr gwirfoddolwyr, mae'r mudiad yn gobeithio y bydd ei bartneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cefnogi ei nod o gael 11,000 o roddwyr gwaed newydd i gofrestru yn 2023.

Ddysgu mwy am roi gwaed ac am yr ymgyrch Gwaed, Chwys ac Iechyd Da

Cliciwch yma.

Ffŵl Ebrill!

Does dim pwyntiau bonws am dair gôl ond gallwch sgorio tair gôl eich hun drwy roi gwaed ac arbed hyd at 3 o fywydau.

Dyna pam rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Genero Adran a Chynghreiriau JD Cymru i annog clybiau a chefnogwyr i roi gwaed.