Ar Sul y Mamau eleni, mae Bethan Dyke, sy'n fam i ddau o blant, yn eiriol dros fwy o roddwyr i ddod ymlaen ar ôl derbyn trallwysiadau gwaed a achubodd ei bywyd oherwydd cymhlethdodau yn dilyn genedigaeth ei hefeilliaid.
Fe wnaeth Bethan a'i phartner Craig Keohane o Donyrefail, ddarganfod eu bod yn disgwyl efeilliaid yn gynnar yn 2022. Yn hwyr yn y beichiogrwydd, ar ôl i gyfradd twf Ella, un o’r babanod, arafu, fe wnaeth arbenigwr o Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd y penderfyniad i eni’r efeilliaid trwy doriad cesaraidd wedi'i gynllunio.
Er yn gynharach na'r disgwyl, rhoddodd Bethan enedigaeth i ddau o fabanod iach, Isaac ac Ella, yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.