Mae Martin Nicholls, goroeswr canser o Abertawe, wedi ymuno â Gwasanaeth Gwaed Cymru i lansio ymgyrch newydd sbon i annog busnesau ar draws Cymru i achub bywydau.
Nod yr ymgyrch newydd Gwnewch Waedyn Fusnesi Chi ydy cau'r bwlch ar y 10,000 o roddion o fusnesau sydd yn cael eu colli bob blwyddyn yn dilyn y pandemig, a'r cynnydd ym mhoblogrwydd gweithio hybrid, gyda mwy o staff bellach yn gweithio o gartref.
Llwyddodd Martin i hybu rhoddion yn ardal Abertawe a’r cyffiniau ar ôl rhannu ei stori ac annog cydweithwyr i roi gwaed yn ei rôl fel Prif Weithredwr Cyngor Abertawe. Nawr, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn helpu mwy o sefydliadau i ddilyn yn ôl troed Martin i dynnu sylw at y pwysigrwydd o roi gwaed, trwy gyfrwng pecyn cymorth newydd sydd wedi cael ei adeiladu ar gyfer busnesau o bob maint. new toolkit built for businesses of all sizes.