Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Amdanom Ni

Pwy ydym ni

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth roi achubiaeth i filoedd o bobl ledled Cymru ac yn rhyngwladol yn eu cyfnod mwyaf anghenus. Diolch i haelioni rhoddwyr ledled y wlad, rydym yn gallu helpu cleifion mewn angen, o achub bywyd rhywun i helpu eraill i fyw eu bywyd nhw. Ni yw prif gyflenwr cynhyrchion gwaed GIG Cymru.

Rydym yn ymdrechu i roi'r profiad gorau posibl i'n rhoddwyr a cheifion, a darparu gwasanaethau labordy, diagnostig a thrawsblannu diogel, modern ac effeithlon, o ansawdd uchel.

Er mwyn darparu cadwyn gyflenwi gwaed ddiogel, rydym yn gweithredu i safonau uchel ein rheoleiddwyr a'n harchwilwyr, fel yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), Awdurdod Meinwe Dynol (HTA), Gwasanaethau Achredu y DU (UKAS), a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae gwaed a thrawsblannu yn feysydd gofal iechyd datblygol sy'n cwmpasu set eang a throsglwyddadwy o sgiliau.

Mae rhoddion yn cael eu prosesu a'u profi yn y labordai sydd wedi'u lleoli ym mhencadlys y Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Nhonysguboriau, Llantrisant, cyn eu dosbarthu i ysbytai cwsmeriaid ledled Cymru. Mae gennym hefyd ganolfannau ar draws y wlad, gan gynnwys Uned Dal Stoc a staff yn Wrecsam a dwy ganolfan staff ym Mangor, a Dafen, Llanelli.

Mae gwasanaethau labordy y Gwasanaeth Gwaed Cymru hefyd yn gweithredu fel canolfan gyfeirio ar gyfer cleifion trallwysiad gwaed cymhleth gan sicrhau eu bod yn derbyn y trallwysiadau gwaed i ddiwallu eu hanghenion penodol, ac yn cefnogi profion rheolaidd ledled Cymru i helpu mamau a babanod drwy'r beichiogrwydd.

Rydym yn cefnogi'r rhaglenni trawsblannu organau a bôn-gelloedd solet sy'n rhedeg allan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac yn rheoli Cofrestrfa Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, sy'n darparu cynhyrchion bôn-gelloedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ogystal â Chynllun Sicrhau Ansawdd Allanol Cenedlaethol y DU ar gyfer Histocompatibility ac Imiwno-geneteg (NEQAS) gwasanaeth asesu ansawdd rhyngwladol.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn adran weithredol o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Cliciwch yma i ddarllen mwy o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Rydym yn darparu gwasanaeth gwaed diogel, hygyrch ac effeithiol ar gyfer:

  • rhoddwyr - darparu gwasanaeth casglu gwaed y gall rhoddwyr a chefnogwyr fod yn falch ohono
  • clefion - sicrhau cyflenwad diogel a chyson o waed ar draws Cymru
  • y GIG - darparu costau is i ysbytai drwy weithredu cadwyn gyflenwad wedi ei integreiddio a chynllunio gwell o'r dechrau i'r diwedd.

Ein gweledigaeth yw:

Cael ein cydnabod gan bobl Cymru a'n cyfoedion fel arweinydd mewn gwasanaethau trawsblannu a thrallwysiad.

Mwy am roi gwaed

 

  • Cliciwch yma os ydych chi eisiau gwybod a ydych chi'n gymwys i roi gwaed.
  • Cliciwch yma i ddarganfod beth i'w ddisgwyl wrth roi gwaed.
  • Cliciwch yma i ddarganfod beth sy'n digwydd i'ch gwaed a sut mae eich gwaed yn cael ei brofi.

Mwy am drallwyso gwaed

 

 

Gallwch ddarganfod mwy am drallwysiadau gwaed trwy fynd i wefan y Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol (BHNOG) yma.

Gallwch fynd i daflenni cleifion BHNOG trwy glicio yma

Ein hanes

Gallwch ddarllen am hanes gwasanaethau gwaed Cymru a Gwasanaeth Gwaed Cymru, a sefydlwyd yn 2016 yma.

Strategaeth Gwasanaeth Gwaed Cymru 2023 - 2028

Darllen mwy

Ein tîm arweinyddiaeth

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn adran weithredol o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Gallwch gael gwybodaeth am dîm arwain yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru drwy glicio yma

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn atebol am Lywodraethu, Rheoli Risg a Rheolaeth Fewnol ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru. Gallwch ddarllen am rôl y Bwrdd, dod o hyd i agendâu, papurau a chofnodion cyfarfod trwy glicio yma.

Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

Dysgwch fwy am yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a sut y cefnogodd Gwasanaeth Gwaed Cymru yr Ymchwiliad wrth ymgymryd â'i waith trwy glilcio yma.

Gallwch hefyd glicio yma i ddarllen sut mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi cefnogi'r Ymchwiliad gyda'i waith. yma.

Dewch o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am yr Ymchwiliad a'i waith yma.