Efallai y bydd rhai rhoddwyr yn teimlo fel llewygu (pendro, penysgafn, poeth, chwysu, crynedig, ysgwyd neu’n teimlo fel chwydu) - 1 mewn 66 o bobl i’r clinig. O ganlyniad i roi gwaed, platennau neu blasma, gall nifer fechan o roddwyr lewygu (1 mewn 683). Gall rhai rhoddwyr sy'n llewygu anafu eu hunain hefyd wrth lewygu (1 mewn 13,800 o bobl).
Mae amrywiaeth o resymau am hyn, ac mae yna bethau y gallwch chi a'n staff eu gwneud i helpu i leihau hyn rhag digwydd. Dilynwch y cyngor a roddir i chi. Os ydych chi’n pryderu o gwbl am deimlo'n benysgafn neu am lewygu, gofynnwch am gael siarad â'r nyrs. Mae ein staff wedi'u hyfforddi i ofalu amdanoch os byddwch chi’n teimlo fel llewygu, ac am wneud yn siŵr nad ydych chi’n gadael y clinig nes eich bod chi’n teimlo'n ddigon da. O bryd i'w gilydd, efallai y byddwch chi’n teimlo fel llewygu neu'n wan am amser hir ar ôl rhoi gwaed, a drannoeth hyd yn oed – gelwir hyn yn "delayed faint" (1 mewn 2,003 o bobl).
Os ydy hyn yn digwydd i chi, mae'n bwysig eich bod chi’n ffonio llinell gymorth GGC i roi gwybod am hyn. Ar ôl rhoi gwaed, dylech yfed digon o hylif di-alcohol, osgoi ymarfer corff egnïol, neu wres, e.e. sawnau a baddonau poeth. Dylech osgoi unrhyw weithgareddau a allai fod yn beryglus i chi neu i eraill hefyd os byddwch yn dechrau teimlo'n wan neu'n benysgafn. Os ydych chi’n teimlo fel llewygu ar ôl gadael y sesiwn, gorweddwch i lawr yn syth ac yfwch ddigon o hylif. Os yde eich symptomau'n parhau neu os ydych chi'n teimlo fel llewygu, gorfynnwch am gymorth yn defnyddio'r manylion isod. ...darllen mwy