Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Goroeswr canser a chwaraewr pêl-droed yn annog cymunedau Cymru i ddod yn achubwyr bywyd

Daniel Gosset

Mae goroeswr canser y gwaed a chwaraewr pêl-droed o Ogledd Cymru yn annog pobl i ddod yn rhoddwyr gwaed sy'n achub bywydau yng Nghymru.

 

Mae Daniel Gosset, 26, o’r Felinheli, yn adnabyddus am ei gampiau canol cae, ac mae wedi chwarae i’r New Saints, y Rhyl, Dinas Bangor, Cefn Druids a Bala Town. Ond ar ôl cael ei ddiagnosio gyda Lymffoma Nad yw’n Hodgkins, math prin o ganser sy’n effeithio ar gelloedd gwaed gwyn y corf ym mis Awst 2019, tyfodd ymwybyddiaeth Daniel o’r angen am waed a chydrannau gwaed yn sylweddol.

Yn sgil ei ddiagnosis, a oedd yn cyd-daro â chyfyngiadau’r cyfnod clo oherwydd y pandemig, cymerodd 18 mis i ffwrdd o’r cae i gael triniaeth ac i wella. Cafodd gemotherapi a radiotherapi fel rhan o’i gynllun triniaeth i drechu canser.

"Ar ôl gweld o lygaid y ffynnon pa mor effeithiol yw rhoi gwaed o ran achub bywydau a helpu pobl fel fi, rwyf eisiau gwneud popeth o fewn fy ngallu i annog eraill i gofrestru a rhoi gwaed."

Daniel Gosset

Ar ôl dychwelyd i’r cae yn 2020, mynegodd Daniel ei werthfawrogiad i roddwyr am roi eu hamser i roi rhoddion gwaed sy’n achub bywydau’r rheiny sy’n mynd drwy sefyllfaoedd tebyg.

Meddai: “Mae rhoi gwaed yn eithriadol o bwysig, yn enwedig o ran achub bywydau, ac mae’n rhywbeth rwyf wedi dod yn angerddol am ei hyrwyddo. Ar ôl gweld o lygaid y ffynnon pa mor effeithiol yw rhoi gwaed o ran achub bywydau a helpu pobl fel fi, rwyf eisiau gwneud popeth o fewn fy ngallu i annog eraill i gofrestru a rhoi gwaed.”

Yn ystod cyfnod Daniel i ffwrdd o’r cae, roedd Gwasanaeth Gwaed Cymru eisoes yn gweithio i greu partneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW).

Lansiodd y ddau sefydliad ymgyrch ‘Gwaed, Chwys a Iechyd da’ newydd sbon ar draws Cynghrair JD Cymru ac Uwch Gynghrair Merched Cymru Orchard, ac annog cefnogwyr i roi gwaed yn lleol i helpu i achub bywydau.

Er gwaethaf tymor pêl-droed stop-start oherwydd y pandemig, ar ddiwedd chwe mis cyntaf yr ymgyrch, mae 50 o glybiau Cynghrair Cymru wedi cefnogi’r ymgyrch ‘Blood, Sweat and Cheers’, sydd wedi arwain at gannoedd o apwyntiadau rhoi gwaed sy’n achub bywydau yn cael eu gwneud, gan gynnwys tîm presennol Daniel, Bala Town.

Gwaed, Chwys ac Iechyd Da

Rydym wedi ymuno â Chynghreiriau JD Cymru Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Genero Adran i lansio ymgyrch newydd sbon 'Gwaed, Chwys a Iechyd Da!' i annog cefnogwyr pêl-droed i roi gwaed.

Darllen mwy
Barry Town celebrate scoring

Ychwanegodd Daniel: “Fel aelod o’r gymuned bêl-droed, mae’n golygu cymaint i mi weld eraill yn chwarae eu rhan drwy wneud apwyntiad i roi gwaed, yn enwedig y chwaraewyr eraill yn y tîm a chefnogwyr pêl-droed ar draws Cymru.

"Nid yw llawer o bobl yn meddwl go iawn am ba mor bwysig ydy rhoi gwaed, nes bod ganddynt aelod o’r teulu neu ffrind agos sydd angen gwaed. Roeddwn i’r un fath cyn cael fy niagnosio, ac mae wedi rhoi hyn mewn persbectif i mi.”

Mae angen i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu 350 o roddion gwaed bob dydd i gyflenwi digon o waed i gleifion mewn 20 o ysbytai i gefnogi triniaethau hanfodol.

Gyda 100,000 o roddion gwaed yn cael eu rhoi bob blwyddyn gan 70,000 o roddwyr gwirfoddol, mae’r sefydliad yn gobeithio y bydd ei bartneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cefnogi ei nod o gael 11,000 o roddwyr gwaed newydd i gofrestru eleni.

Mae rhoi gwaed yn cael ei ystyried yn wasanaeth hanfodol, ac mae sesiynau rhoi gwaed wedi parhau i gael eu rhedeg ar draws Cymru drwy gydol y pandemig, gyda mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno i fodloni canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer rhoddwyr sy’n mynychu.

Daniel Gosset

Gallwch ddangos eich cefnogaeth y tu hwnt i'r cae pêl-droed drwy gofrestru i roi gwaed

Gwnewch apwyntiad heddiw