Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Teulu o Bont-y-pŵl yn rhagori ar ddisgwyliadau i roi tri rhodd mêr esgyrn achub bywyd

Teulu o Bont-y-pŵl yn rhagori ar ddisgwyliadau i roi tri rhodd mêr esgyrn achub bywyd

Mae tair cenhedlaeth o deulu achub bywyd o Bont-y-pŵl wedi rhagori ar ddisgwyliadau, wrth i bob un gael eu dewis i roi eu mêr esgyrn achub bywyd i dri dieithryn llwyr filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Cafodd Allan (65), Chris (33) a Corey Taylor (25) eu dewis o Gofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru fel yr unig bobl addas yn y byd oedd yn cydweddu, oedd yn gallu achub cleifion o Affrica, America ac Ewrop yn y drefn honno.

I ddathlu Diwrnod Rhoddwyr Mêr Esgyrn y Byd (dydd Sadwrn 19 Medi), mae’r teulu Taylor yn galw ar bobl ifanc 17-30 oed ar draws Cymru i wirfoddoli eu mêr esgyrn achub bywyd, drwy ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.

Meddai Chris Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru:

“Bob dydd, mae cleifion canser y gwaed ar draws y byd yn gobeithio’n daer dod o hyd i roddwr mêr esgyrn addas sy’n cydweddu. Mae’r gofynion sydd eu hangen i baru claf â rhoddwr mêr esgyrn yn benodol iawn ac yn anffodus, mae hyn yn golygu na fydd tri o bob deg claf fyth yn dod o hyd i’r rhoddwr mêr esgyrn sydd ei angen arnynt a allai achub eu bywyd.

“Y llynedd, cafodd 50,000 o roddion eu gwneud gan tua 40 miliwn o wirfoddolwyr oedd wedi’u cofrestru’n rhyngwladol, sy’n dangos yn union pa mor brin ydyw i gydweddu â rhywun.

 

"Mae'r tebygolrwydd o gael eich dewis fel rhywun sy’n paru â chlaf yn eithriadol o brin, does neb bron fyth yn clywed am dri aelod o'r un teulu yn cael eu paru â chleifion."

Chris Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru

“Mae’r tebygolrwydd y bydd un aelod o’r teulu yn cael ei ddewis fel rhywun sy’n cydweddu ar gyfer claf yn eithriadol o brin. Mae’r ffaith i ddau aelod o’r un teulu gael eu paru yn rhywbeth prin iawn, ac mae’r ffaith bod tri aelod o’r un teulu wedi cael eu dewis fel rhoddwyr sy’n cydweddu’n llwyr â chleifion mewn tri cyfandir gwahanol yn syfrdanol!

“Mae’r teulu Taylors yn achubwyr bywyd go iawn.”

Mêr esgyrn ydy’r meinwe meddal, sbwng a geir yng nghanol esgyrn penodol yn eich corff lle mae bôn-gelloedd gwaed yn byw. Mae bôn-gelloedd gwaed yn cynhyrchu eich holl gelloedd gwaed hanfodol, fel celloedd gwaed coch i gario ocsigen, a chelloedd gwaed gwyn i ymladd haint. Mae rhai clefydau, fel rhai mathau o lewcemia, yn atal mêr esgyrn rhag gweithio’n iawn. I’r cleifion hyn, y gobaith gorau o wella ydy cael trawsblaniad mêr esgyrn.

Wrth sôn am ei brofiad, dywedodd Allan, yr hynaf o’r teulu: “Mae llawer wedi newid ers i mi roi gwaed yn 2005, ond yr hyn sydd wedi aros yr un fath ydy staff gwych Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, sydd bob amser wrth law drwy gydol y broses i ofalu amdanoch ac i gynnig sicrwydd a chefnogaeth i chi.”

Meddai Chris, cenhedlaeth ganol y tri rhoddwr, sy’n gweithio i Gyngor Torfaen ar hyn o bryd: “Roeddwn eisoes yn rhoddwr gwaed, a phenderfynais un diwrnod i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru. Rwy’n ffan mawr o Superman, felly dwi wastad wedi breuddwydio am fod yn archarwr. Alla i ddim hedfan, ond roeddwn i’n gallu achub bywyd drwy roi fy mêr asgwrn – dyma’r mwyaf agos ag y byddaf fyth yn gyrraedd at ddod yn arwr!

“Roedd fy nghyflogwr yn hollol wych, ac ni allai fod wedi bod yn fwy cefnogol. Roedd y broses, a barhaodd tua phedair awr, yn hollol iawn. Ar ôl rhoi gwaed, arhosais am tua 30 munud, cefais baned o de ac yna, fe es i adref. Gorffwysais dros y penwythnos, ac fe es i’n syth yn ôl i’r gwaith ar y dydd Llun.

“Buaswn i’n dweud wrth unrhyw un sydd heb gofrestru – gwnewch hynny! Byddwch yn teimlo’n wych amdanoch chi eich hun os cewch eich galw. Ar ôl dod yn dad fy hun yn ddiweddar, bydd y teimlad y gallwn fod wedi achub bywyd mab neu ferch rhywun yn aros gyda mi am byth. Petaswn yn gallu, buaswn yn gwneud y cyfan eto mewn curiad calon.”

Ychwanegodd Corey, y rhoddwr ieuengaf yn y teulu: “Mae camdybiaeth enfawr a stigma o amgylch y broses mêr esgyrn. Mae’n edrych fel bod pobl yn meddwl bod yn rhaid iddynt fynd drwy broses feddygol, fel llawdriniaeth, sy’n golygu cymryd y mêr asgwrn yn uniongyrchol o’ch asgwrn clun.

Aged between 17 and 30? Join the register today and become a #ChilledOutLifesaver!

Gofynnwch am becyn swab!

“Mae’r realiti’n wahanol iawn, gan fod 85% o roddion yn cael eu casglu drwy broses anfeddygol, sy’n debyg iawn i roi gwaed; mae’n cymryd ychydig mwy o amser, a does dim llawer iawn o anghysurdeb.”

Mae’r broses PBSC yn casglu bôn-gelloedd yn uniongyrchol yn defnyddio peiriant arbenigol. Mae’r broses yn cynnwys tynnu gwaed allan o un fraich, echdynnu’r bôn-gelloedd, cyn dychwelyd gweddill y gwaed i’ch braich arall. Fel arfer, mae rhoddwyr yn mynd yn ôl i wneud eu gweithgareddau arferol diwrnod neu ddau ar ôl rhoi gwaed.

Fe wnaeth Allan Taylor grynhoi eu cyflawniad drwy ddweud: “Dwi mor falch ohonof i a fy nheulu. Roeddwn yn teimlo’n wych gwybod bod fy mab a fy ŵyr yn gwneud yr un peth. Mae rhywun bob amser yn llai ffodus na chi.

“Rwy’n gwybod bod pobl yn gallu siarad am roi arian, ond rwy’n credu ein bod ni wedi gwneud rhywbeth llawer mwy na hynny, rydym o bosibl wedi rhoi’r rhodd o fywyd i dri o bobl. Allwch chi ddim rhoi pris ar hynny! Dwi wedi gwneud beth dwi’n gallu. Gallwch chi hefyd.”

Dewch o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.

Gwnewch apwyntiad heddiw