Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Rhoi platennau

Rhoi platennau ym Mhont-y-clun

Oeddech chi'n gwybod bod un rhodd platennau yn gallu helpu i achub hyd at dri o fywydau oedolyn neu 12 babi?

Mae rhoi platennau yn bwysig dros ben, gan fod y celloedd yn helpu i stopi gwaedu. Hefyd, mae platennau’n hanfodol er mwyn helpu cleifion i ymladd clefydau cronig, canserau ac i wella o anafiadau trawmatig.

Beth ydy platennau?

Cydrannau gwaed ydy platennau. Maen nhw’n gelloedd bach iawn yn eich gwaed sy'n ffurfio clotiau, ac maen nhw’n hynod o ddefnyddiol i stopio cleifion rhag gwaedu a chleisio.

Mae platennau’n para am saith diwrnod yn unig, felly rydym angen cyflenwad cyson a pharhaus gan roddwyr platennau hael i barhau i fedru cyflenwi ysbytai gyda'r rhoddion hanfodol hyn i gleifion mewn angen.

Sut mae rhoi platennau yn gweithio

Mae rhoi platennau yn gallu cymryd hyd at 90 munud, ac yn rhoi’r cyfle i chi eistedd yn ôl, ymlacio, darllen neu wylio'r teledu cyn mynd ymlaen gyda’ch diwrnod eto.

Pan rydych yn rhoi platennau, mae gwaed yn cael ei dynnu drwy nodwydd a'i drosglwyddo i beiriant arbenigol. Mae'r peiriant yn gwahanu'r platennau o'ch gwaed, cyn dychwelyd y gwaed yn ddiogel yn ôl i chi. Mae hyn yn eich helpu i wella’n gyflymach ac i allu rhoi platennau yn fwy aml na rhoddwyr gwaed. Fel rhoddwr platennau, gallwch roi bob tair wythnos.

A gaf i roi platennau ym Mhont-y-clun?

Rydym yn gofyn i unrhyw un sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer rhoi gwaed i weld a yw'n bosibl rhoi platennau hefyd.

Mae’n rhaid i chi fod rhwng 17 a 66 oed, yn iach, yn pwyso rhwng 9 a 23 stôn a dim yn destun unrhyw eithriadau meddygol i roi platennau.

Os ydych chi’n bodloni'r meini prawf uchod a'r meini prawf cymhwysedd safonol, cofrestrwch ar-lein heddiw i gael asesiad i weld os ydych chi’n gallu allwch rhoi platennau.

Bydd aelod o'n tîm arbenigol yn gwirio eich cymhwysedd ac yn sicrhau bod eich gwythiennau'n addas (gan fod yr offer sydd yn cael ei ddefnyddio i gasglu platennau yn wahanol i’r offer sydd yn cael ei ddefnyddio i roi gwaed).

Popeth sydd angen i chi wybod am roi platennau

Mae rhoi platennau ychydig yn wahanol i roi gwaed. Mae gwaed sydd wedi cael ei roi yn cael ei drosglwyddo drwy beiriant sy'n echdynnu platennau, ac yna, mae’r peiriant yn dychwelyd gweddill y gwaed yn ôl i'r rhoddwr. Mae'r broses hon yn golygu bod dynion a menywod yn gallu rhoi platennau mor aml â phob tair wythnos.

Mae pob rhodd platennau yn cael eu cyfrif fel rhodd 'driphlyg' hefyd, gan y gall pob ymweliad gasglu hyd at dair 'rhodd' i'w defnyddio gan ysbytai.

Mae'r amser mae'n ei gymryd i roi platennau yn hirach hefyd. Mae'r broses rhoi platennau yn cymryd hyd at 90 munud, tra bod rhoi gwaed yn cymryd pump i ddeg munud.

Gallwch roi platennau yn ein canolfan flaenllaw ym Mhont-y-clun. Dyma'r cyfeiriad:

Gwasanaeth Gwaed Cymru, Heol Cwm Trelái, Tonysguboriau, Pont-y-clun, CF72 9WB.

Mae ein canolfan ar agor i roddwyr platennau rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn ystod yr amseroedd canlynol:

Dydd Llun: 15:00 - 19:30
Dydd Mawrth: 08:15 - 12:00 ac 15:00 - 19:30
Dydd Mercher: 08:15 - 12:00 ac 15:00 - 19:30
Dydd Iau: 15:00 - 19:30
Dydd Gwener: 08:15 - 12:00

Mae angen rhoddion platennau ar lawer o gleifion ar draws Cymru. Mae'r cleifion hyn yn cael triniaethau canser, llawdriniaeth organau neu yn dioddef o anhwylderau gwaed.

Cofrestrwch eich diddordeb mewn dod yn rhoddwr platennau ym Mhont-y-clun

Cofrestrwch heddiw