Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Cyngor ar lewygu i roddwyr

O bryd i’w gilydd, bydd rhoddwr yn teimlo’n sâl, yn benysgafn neu’n teimlo fel llewygu ar ôl rhoi gwaed. Ar achlysuron prin, gallant lewygu.

Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n teimlo’n sâl ar ôl rhoi gwaed

Bydd staff yn y clinig i roddwyr yn gofalu amdanoch chi os ydych yn teimlo fel llewygu yn ystod, neu ar ôl rhoi gwaed. Dywedwch wrthym ar unwaith os ydych yn teimlo’n benysgafn, yn sâl neu’n teimlo fel eich bod am lewyg.

Os byddwch yn teimlo fel llewygu neu’n benysgafn ar ôl i chi adael y clinig, dylech:

  • Eistedd neu orwedd i lawr ar unwaith a chodi eich coesau. Os ydych yn eistedd, rhowch eich pen i lawr.
  • Ofyn i ffrind neu berthynas gadw llygad arnoch chi.
  • Aros i’ch symptomau setlo cyn codi yn araf.
  • Ymlacio am weddill y dydd ac osgoi ymarfer corff egnïol neu sefyll am gyfnodau hir.
  • Osgoi ystafelloedd poeth a pheidio â chymryd cawod/baddon sy’n rhy boeth.

Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi teimlo’n sâl ar ôl rhoi gwaed yn gallu rhoi gwaed eto heb unrhyw broblemau.

A gaf i roi gwaed eto os rwy’n llewygu neu wedi teimlo’n sâl ar ôl rhoi gwaed?

Dyma rywfaint o awgrymiadau ar gyfer ceisio stopio eich hun rhag llewygu:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon i’w fwyta ac yfed cyn i chi ddod draw. Bydd yfed mwy o hylifau yn y clinig cyn rhoi gwaed yn helpu hefyd.
  • Gwisgwch ddillad cyfforddus, llac, a gwnewch yn siŵr nad oes gennych chi ddim byd rhy dynn o gwmpas eich braich.
  • Ceisiwch gael noson dda o gwsg cyn i chi roi gwaed.
  • Gwnewch yn siŵr nad ydych yn rhuthro gormod neu yn gorfod gadael y clinig yn gyflym ar ôl rhoi gwaed.
  • Ni ddylai’r broses o roi gwaed fod yn boenus, felly dywedwch wrth y staff bob amser os ydych yn teimlo’n anghyfforddus tra byddwch yn rhoi gwaed.

 

Ar ôl rhoi gwaed

  • Ceisiwch osgoi ymarfer corff egnïol neu sefyll am gyfnodau hir.
  • Ceisiwch osgoi gormod o alcohol, gan y bydd yn ychwanegu at yr effeithiau o golli uned o waed.
  • Dylai ysmygwyr osgoi ysmygu am o leiaf 2 awr.
  • Osgoi ystafelloedd poeth a pheidio â chymryd cawod/baddon sy’n rhy boeth.

 

Cael help

Rhowch wybod i ni os ydych yn teimlo’n sâl ar ôl rhoi gwaed, drwy ffonio Gwasanaeth Gwaed Cymru ar 0800 252 266 neu e-bost: donors@wales.nhs.uk

Os ydych chi angen help neu gyngor ar unwaith, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu, neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru.

Dim yn gallu darganfod beth ydych chi’n edrych amdano ar-lein?

Cysylltwch heddiw