Ni fydd tri o bob deg claf canser y gwaed yn dod o hyd i rywun y mae eu mêr esgyrn yn cydweddu â’u un nhw.
Po fwyaf yw'r gofrestr, y mwyaf yw'r tebygolrwydd o baru claf canser y gwaed neu glaf sydd ag anhwylder gwaed gyda rhoddwr mêr esgyrn addas.
Cofrestrwch nawr Rhagor o wybodaeth Straeon hapusOs oes posibiliad y byddwch yn cydweddu, byddwn angen cymryd sampl o waed gennych i gynnal profion ychwanegol arno.
Os ydych chi’n llwyddiannus wedyn, gallwch roi mêr esgyrn mewn dwy ffordd; drwy afferesis lle mae eich gwaed yn cael ei brosesu drwy beiriant a'i roi yn ôl i chi, neu drwy roi mêr esgyrn drwy asgwrn eich clun.
Er bod gwahaniaethau o ran defnyddioldeb y ddau, y rhoddwr sydd yn cael y gair olaf bob amser ar sut i roi mêr esgyrn.
Yna, ar ôl rhoi mêr esgyrn, gallwch ymlacio, gan wybod eich bod chi'n arwr i ni, a llawer mwy o bobl ar draws y byd!
Mae ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru yn syml. Gallwch ymuno â'r panel pan rydych chi’n 17 oed, hyd at eich pen-blwydd yn 31 oed.