Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Malaria

Achosir Malaria gan barasit sy’n cael ei gludo yn y gwaed, sy’n gyffredin iawn mewn nifer o wledydd trofannol.

Bob blwyddyn, mae rhwng 1000 – 2000 o bobl yn dal yr afiechyd tra byddant dramor, gan amlaf yn sgîl ymweliadau i wledydd Affrica Is-sahara ac yna, maen nhw’n dychwelyd i’r DU gyda’r haint.

Trosglwyddir malaria gan frathiad y mosgito Anopheles. Gellir ei drosglwyddo i gleifion hefyd trwy drallwysiad gwaed gan roddwr heintiedig.

Er bod rhagofalon synhwyrol yn cael eu cymryd i atal heintiad e.e. tabledi gwrth-falaria, rhwydi mosgito ac ati, mae pobl sy’n teithio i ardaloedd lle ceir malaria mewn perygl o gael eu heintio. Mae Malaria fel arfer yn achosi iasoedd oer a thwymyn, a gall rhai mathau o Falaria ladd pobl, felly mae’n rhaid cymryd pob rhagofal i’w atal rhag cael ei drosglwyddo drwy drallwysiad gwaed.

Mae symptomau’r afiechyd i’w gweld o fewn ychydig wythnosau neu fisoedd ar ôl brathiad gan fosgito heintiedig ond weithiau, gall y symptomau beidio â dod yn amlwg am chwe mis.

Yn wir, gall pobl sydd wedi cael eu hamlygu’n gyson i Falaria, trwy fyw am gyfnod hir mewn gwlad lle ceir Malaria, fod wedi dod yn imiwn iddo yn rhannol, ac efallai y byddant yn cludo’r parasit am flynyddoedd heb deimlo’n sâl. Hefyd, efallai na fyddant yn sâl os cânt eu heintio eto.

Bydd yn bosibl profi rhoddwyr 4 mis ar ôl iddynt ddychwelyd o ardal lle ceir malaria, ond os yw rhoddwyr yn gwybod eu bod wedi cael malaria eisoes bydd yn rhaid iddynt ddisgwyl am gyfnod o dair blynedd cyn cael prawf. Mae’r prawf yn chwilio am dystiolaeth o wrthgorffynnau i barasitiaid malaria. Mae prawf negyddol yn golygu y gellir defnyddio eich gwaed.

Gall prawf positif gael goblygiadau ar gyfer eich iechyd. Yn y naill achos, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio’r canlyniadau, ac i roi gwybod os oes angen i chi wneud unrhyw beth arall

Dim yn gallu darganfod beth ydych chi’n edrych amdano ar-lein?

Cysylltwch heddiw