Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Lansio Strategaeth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Newydd

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi lansio ei strategaeth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I) newydd yn swyddogol, gan atgyfnerthu ei ymrwymiad i wella gofal iechyd, datblygu gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau, ac yn y pen draw wella bywydau rhoddwyr a chleifion ledled Cymru.

Mae’r strategaeth yn amlinellu sut y bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer gweithgareddau RD&I, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad o ran ymchwil arloesol a gwelliannau gofal iechyd. Cenhadaeth allweddol y strategaeth yw gwella profiadau cleifion a rhoddwyr, nod sy'n parhau i fod yn ganolog i weledigaeth y sefydliad.

“Mae’r strategaeth newydd yn canolbwyntio ar wreiddio ymchwil ac arloesi ar draws pob maes o Wasanaeth Gwaed Cymru.

Trwy feithrin ymchwil o safon fyd-eang a chydweithio â Byrddau Iechyd, gwasanaethau trallwyso, rhoddwyr a phartneriaid allweddol eraill, ein nod yw cynrychioli Cymru ar lwyfan byd-eang ym maes gwyddor trallwyso a thrawsblannu.

Bydd ein partneriaethau parhaus yn ysgogi datblygiadau ystyrlon mewn gofal cleifion a rhoddwyr.

Rwy’n falch o arwain Gwasanaeth Gwaed Cymru wrth gyflawni’r strategaeth uchelgeisiol hon. Bydd RD&I yn chwarae rhan hanfodol wrth gryfhau gwasanaethau, gwella canlyniadau cleifion, a llunio dyfodol meddygaeth trallwyso a thrawsblannu yng Nghymru.”

Dr Edwin Massey, Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae'r strategaeth wedi'i strwythuro o amgylch saith cenhadaeth allweddol, pob un wedi'i chynllunio i gefnogi amcanion y sefydliad a sicrhau ymagwedd â ffocws tuag at weithgareddau RD&I.

Graphic with the seven missions in bubbles 1. Centred on improving patient and donor care 2. Advancing blood components 3. Advancing transplant research 4. Use innovation and value based health care to improve our services and performance 5. Use collaboration to sustain our RD&I 6. Serve the people of Wales by supporting international initiatives 7. Enhance the impact of RD&I and celebrate success

Mae'r strategaeth newydd hon yn gam beiddgar ymlaen i RD&I o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru, gan ailddatgan ei hymrwymiad i arloesi a rhagoriaeth mewn gofal cleifion.

Darllenwch y Strategaeth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi newydd ar dudalennau ymchwil gwefan Gwasanaeth Gwaed Cymru. research pages of the WBS website.