Ein galluoedd
Datblygu Cyfansoddion Gwaed
- Dylunio a phrofi cynhyrchion gwaed newydd wedi'u teilwra ar gyfer anghenion clinigol penodol, fel platennau wedi'u storio'n oer.
- Nod yr arloesiadau hyn ydy gwella diogelwch, effeithiolrwydd ac argaeledd cyfansoddion gwaed.
Cydweithrediadau a Phartneriaethau
- Gweithio’n agos gyda’r byd academaidd, GIG Cymru, y lluoedd arfog a rhwydweithiau ymchwil rhyngwladol i ysgogi arloesi a rhannu arbenigedd.
- Cefnogi clinigwyr ymchwil i ddatblygu gofal cyn ysbyty, triniaethau trallwyso a thrallwyso mewn amgylcheddau heriol.
Hyfforddiant a Chymorth i Fyfyrwyr
- Cefnogi myfyrwyr-ymchwilwyr a gwyddonwyr gofal iechyd, darparu profiad ymarferol a meithrin y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr mewn gwyddor trallwyso ac ymchwil gwaed.