Themâu Ymchwil, Datblygu ac Arloesi
Mae gan ein prosiectau Ymchwil, Datblygu ac Arloesi bedair prif thema:
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddarparu llinell fywyd i filoedd o bobl ar draws Cymru yn eu cyfnod o'r angen mwyaf.
Ond nid yw ynghylch gwaed yn unig. Rydym wrth wraidd ymchwil arloesol hefyd, sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau gofal iechyd, sy’n cynnwys cefnogi treialon hanfodol yn ystod y pandemig Covid-19.
Mae ein tîm Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn cefnogi ymchwilwyr i gynnal ymchwil moesegol o ansawdd uchel.
Ochr yn ochr â'n hymchwil annibynnol ein hunain, rydym yn gweithio gydag academyddion, partneriaid a sefydliadau eraill hefyd, i helpu i wella'r gadwyn gyflenwi gwaed gyfan a i ddatblygu gofal, i bawb, ar draws y byd.
Mae gan ein prosiectau Ymchwil, Datblygu ac Arloesi bedair prif thema:
Gofynnwyd i'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid am ddyfodol ein huchelgeisiau ymchwil nôl yn 2016.
Nododd yr adborth y dylai gwaith ymchwil a datblygu o ansawdd uchel fod yn rhan o'n gweithgarwch dydd i ddydd.
Mae ein strategaeth ymchwil a datblygu yn seiliedig ar ein dymuniad i weithio mewn partneriaeth ag ymchwilwyr a sicrhau'r ansawdd, y canlyniad a'r cyrhaeddiad gorau.
Mae'n nodi sut y byddwn yn helpu i hyrwyddo gofal i roddwyr ac i gleifion trallwyso a thrawsblannu, drwy ein prosiectau ni ein hun a phrosiectau eraill.
Rydym yn cynhyrchu adroddiadau a grëwyd yn arbennig yn rheolaidd, i chi eu darllen a'u rhannu gyda'ch ffrindiau a'ch cydweithwyr.
Darllenwch ein hadroddiadau diweddaraf yma:
Dilynwch ni ar ein tudalen Ymchwil, Datblygu ac Arloesi ar trydar i gael gwybod mwy. Cysylltwch â ni ar WBS.Research@wales.nhs.uk neu 01443 622119 i gymryd rhan.