Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Rhaglen rhoi gwaed gan fyfyrwyr chweched dosbarth

Rydym yn trefnu sesiynau rhoi gwaed ar gyfer disgyblion a staff chweched dosbarth ar draws amryw o ysgolion yng Nghymru.

 

Mae mwy na 1,500 o roddion wedi cael eu rhoi hyd yn hyn. Ac mae 220 o bobl wedi cofrestru i roi mêr esgyrn.

Gall unrhyw ddisgyblion chweched dosbarth gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru drwy fynychu eu sesiwn rhoi gwaed lleol! Dyma beth oedd gan y myfyrwyr i’w ddweud am achub bywydau…

Adnoddau addysgu i'w llwytho i lawr

Rydym wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth at ei gilydd i helpu dosbarthiadau CA4 a CA5 i ddarganfod mwy am roi gwaed, platennau a mêr esgyrn.