Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Her Bagloriaeth Cymru

Student

Oes gennych chi beth sydd ei angen i gael mwy o bobl ifanc i roi gwaed?

Nawr, gall myfyrwyr gymryd rhan yn yr her o annog mwy o bobl ifanc i ddechrau gwaed, platennau neu fêr esgyrn yng Nghymru, fel rhan o gymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Rheolau ynghylch rhoi Dysgu mwy am roi gwaed Dod o hyd i'ch clinig rhoi gwaed lleol

Y Briff

Eich her fydd dylunio a datblygu deunydd/offer hyrwyddo digidol, a fydd yn cynorthwyo Gwasanaeth Gwaed Cymru i ddenu mwy o bobl ifanc i roi gwaed, platennau a/neu fêr esgyrn.

Bydd angen i chi fod yn arloesol ac yn greadigol er mwyn ymgysylltu â'r gynulleidfa darged. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu a dangos ystod eang o sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau.

Oeddech chi’n gwybod?

Rydym yn rhedeg sesiynau rhoi gwaed mewn sawl ysgol ar draws Cymru.

Mae amrywiaeth o adnoddau i helpu ysgolion i hyrwyddo’r pwysigrwydd o roi gwaed yn y sesiynau hyn, ac maen nhw’n le gwych i ddechrau arni.

Rhagor o wybodaeth

Adnoddau

Rydym wedi creu cyflwyniad dosbarth a chwis i fyfyrwyr i chi eu lawrlwytho. Rhowch gynnig arnyn nhw eich hun, neu cyflwynwch nhw i eraill fel rhan o'ch cymhwyster Bagloriaeth Cymru.