Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges i fwy o bobl ifanc 17 i 30 oed yma.

Pethau i'w gwybod am roi gwaed

Rydym yn cymryd gofal mawr i sicrhau diogelwch ein cyflenwad gwaed ac iechyd a lles ein holl roddwyr a chleifion.

Isod, ceir atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir.

Trefnu apwyntiad

Profi'n bositif am Covid-19
Os ydych chi wedi profi’n bositif am COVID-19, gallwch roi gwaed pan fydd o leiaf 7 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl i chi wella o’ch symptomau. Efallai y cewch eich gadael gyda pheswch sych, ond cyn belled â’ch bod chi’n teimlo’n dda, gallwch roi gwaed wedyn.

symptomau Covid-19 ond heb gael prawf
Os ydych chi wedi cael symptomau Covid-19 ond heb gael prawf, gallwch roi gwaed pan fydd o leiaf 7 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl i chi wella o’ch symptomau.

Os ydych chi’n profi symptomau ‘Covid Hir’, ar gyfer eich iechyd a’ch lles eich hun, peidiwch â rhoi gwaed nes eich bod chi’n heini ac iach.

Cysylltwch â ni i drafod unrhyw faterion cardiaidd rydych chi wedi’u profi o ganlyniad i Covid-19 cyn gwneud eich apwyntiad.

Ym mhob achos, os byddwch yn rhoi gwaed, mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod am unrhyw afiechydon rydych chi’n eu datblygu yn y 14 diwrnod ar ôl rhoi gwaed.

Nid ydym yn rheoli’r rheolau ynghylch rhoi gwaed.

Mae ein cyfnodau rhoi gwaed ar hyn o bryd yn dal I barhau ar gyfer rhoi gwaed, gan y bydd hyn yn rhoi amser i’r corff adfer lefelau haearn, lefelau haemoglobin a lefelau celloedd gwaed coch.

Gorchuddion wyneb

- Nid oes gofyniad i wisgo masgiau wyneb ar gyfer rhoddwyr neu staff mewn clinigau rhoi gwaed. Fodd bynnag, oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion o'r coronafeirws, rydym yn argymell yn gryf bod rhoddwyr yn gwisgo gorchudd wyneb pan fyddant yn mynychu eu hapwyntiad rhoi gwaed.

Sesiwn rhoi gwaed

Am resymau diogelwch rydym yn gofyn, ble’n bosibl, mai dim ond y rheiny sy’n rhoi gwaed sy’n dod i mewn i’r sesiwn rhoi gwaed

Rydym yn deall na ellir osgoi dod â phlant i glinig mewn amgylchiadau eithriadol. Oherwydd yr amrywiaeth o amgylcheddau rydym yn gweithio ynddynt a natur anrhagweladwy darpariaeth gofal iechyd, ni allwn greu ymateb safonol i bob rhoddwr a phob plentyn....darllen mwy

Rydym yn gofyn i roddwyr gwaed ddod i mewn i'r sesiwn ar adeg eu hapwyntiad yn unig,

bydd hyn yn lleihau unrhyw giwio.

Coronafeirws (COVID-19)

Nid ydy GGC yn profi am SARS-CoV-2 fel mater o drefn.

Teulu o feirysau yw’r cornafeirws. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw fath o goronafeirws yn cael ei drosglwyddo drwy roi gwaed neu drallwysiad gwaed.

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod COVID-19 yn cael ei drosglwyddo gan drallwysiad gwaed, ac mae ein proses sgrinio gadarn yn golygu nad ydym yn caniatáu i bobl sy’n sâl i roi gwaed.

Nac ydych. Dydyn ni ddim yn cymryd digon o waed i gyfaddawdu eich system imiwnedd, a cyhyd â’ch bod chi’n ffit ac yn iach pan fyddwch chi’n rhoi gwaed, dydych chi ddim yn wynebu unrhyw risg ychwanegol.

Brechlynnau

Ni ddylech rhoi gwaed tan o leiaf dau diwrnod ar ôl i chi dderbyn naill ai’r brechlyn Pfizer/BioNTech COVID-19 neu’r brechlyn AstraZeneca COVID-19. Mae’n rhaid i chi fod yn iach hefyd, heb unrhyw adweithiau lleol neu systemig parhaus i’r brechlyn.

Os wnaethoch chi gymryd rhan mewn treial ar gyfer brechlyn COVID–19:

    • ni allwch roi gwaed nes bod pedair wythnos wedi mynd heibio ar ôl i chi gael eich brechiad diweddaraf , neu
    • os ydych chi’n dal i fod o fewn unrhyw gyfnod gohirio sydd yn cael ei gynghori yn y protocol ar gyfer unrhyw dreial clinigol rydych chi wedi cofrestru ar ei gyfer.

Os nad ydych chi’n siŵr, ceisiwch gael cyngor pellach gan yr uned dreialu rydych chi wedi cofrestru ynddi.

Achubwch fywydau.

Gwnewch apwyntiad i roi gwaed.

Gwnewch apwyntiad i roi gwaed.