Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Brechlynnau

Brechiad rhag y ffliw

Brechlyn ffliw - trwy bigiad

Dim effaith ar gymhwystra rhoi gwaed.

Brechlyn ffliw - trwy chwistrell drwynol

Mae’n rhaid i chi aros am bedair wythnos cyn rhoi gwaed.

 

Brechlyn/pigiad atgyfnerthu Covid-19

Bydd angen i chi aros 2 diwrnod ar ôl derbyn brechlyn neu bigiad atgyfnerthu Covid-19 cyn rhoi gwaed.

Does dim rhaid i chi aros am gyfnod o amser i dderbyn brechlyn neu bigiad atgyfnerthu Covid-19 ar ôl rhoi gwaed neu blatennau.

Brechlynnau byw

Os ydych chi wedi cael brechlynnau byw e.e. brech yr ieir, eryr, brech goch yr Almaen, y frech goch, MMR a thwymyn melyn, ni fyddwch yn gallu rhoi gwaed am gyfnod o bedair wythnos.

 

Brechlynnau sydd ddim yn rhai byw

Mae’n rhaid i chi aros 7 diwrnod yn dilyn pigiad atgyfnerthu arferol neu frechiad Hepatitis cyn teithio. Os ydych chi wedi cael brechiad Hepatitis B am unrhyw reswm arall, cysylltwch â ni.

Does dim cyfnod gohirio os ydych chi wedi cael eich brechu gyda'r rhan fwyaf o frechlynnau sydd ddim yn rhai byw e.e. Tetanws, HPV, Ffliw a Llid yr Ymennydd Meningococcal.

Dim yn gallu darganfod beth ydych chi’n edrych amdano ar-lein?

Cysylltwch heddiw