Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Eich teip gwaed

Sut ydw i'n cael gwybod beth yw fy ngrŵp gwaed i roi gwaed?

Does dim angen i chi wybod beth yw eich grŵp gwaed i roi gwaed. Byddwn yn darganfod hynny drosoch chi.

Ar ôl i chi roi gwaed, byddwn yn anfon cerdyn rhoi gwaed atoch i gadarnhau beth yw eich teip waed.

Gallwch fod yn un o bedwar grŵp gwaed gwahanol: O, A, B ac AB.

Y grwpiau hyn yw - Rh D negatif neu Rh D positif, er enghraifft: O Rh D negatif (fel arfer, O- neu O neg yn gryno).

Os ydych chi wedi rhoi gwaed gyda ni, byddwn yn anfon cerdyn rhoddwr atoch yn y post gyda'ch teip o waed arno. Byddwch yn ymwybodol y gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos. Os ydych chi’n dal i aros am eich cerdyn ar ôl yr amser hwn, gallwch ofyn am ddiweddariad yma.

Pa grwpiau gwaed sydd fwyaf neu leiaf cyffredin?

Y grŵp gwaed mwyaf cyffredin ar gyfer pobl sy'n byw yn y DU (44%) yw’r grŵp gwaed O, ac yna'r grŵp gwaed A (42%).

Mae hyn yn golygu mai'r grwpiau gwaed hyn yw'r rheini y gofynnir amdanynt fwyaf aml gan ysbytai ar gyfer cleifion mewn angen.

Y grwpiau gwaed lleiaf cyffredin yw’r grwpiau gwaed B (10%) ac AB (4%).

Mae mwy o gleifion yn gallu derbyn grwpiau gwaed negatif, ond dim ond 15 y cant o bobl sydd â grŵp gwaed negatif. Mae gan y rhan fwyaf o bobl (85%) grŵp gwaed positif.

Oes un grŵp sy'n arbennig iawn?

Does dim ots pa mor gyffredin na pha mor brin yw eich grŵp gwaed - mae dal angen i ni gasglu digon i sicrhau ei fod ar gael ar gyfer cleifion mewn angen ar draws Cymru yn un o'r 20 ysbyty rydyn ni'n eu cyflenwi.

Mae gwaed O negatif, sef tua 10 y cant o'r boblogaeth, yn gallu cael ei roi i unrhyw un mewn argyfwng, ac mae’n cael ei ddefnyddio hefyd ar gyfer trallwysiadau i fabanod, sy’n golygu bod y grŵp hwn yn hanfodol i bob un o'r ysbytai rydym yn eu cefnogi.

Darganfyddwch os ydych chi’n gymwys i roi rhodd o waed a allai achub bywydau.

Cwblhewch y cwis