Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Tîm Anemia yn Datblygu Rhaglen Rheoli Anemia Cenedlaethol

Cynhaliodd y Grŵp Goruchwylio Cenedlaethol Iechyd Gwaed gynhadledd ar Anemia Amdriniaethol i randdeiliaid ar 15 Mehefin 2023.

Daeth 54 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n cynrychioli Byrddau Iechyd ar draws Cymru at ei gilydd i gefnogi gweithredu Llwybr Amdriniaethol Cymru Gyfan.

Fe ganmolodd y siaradwr gwadd, yr Athro Chris Jones (Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru) y rhaglen yn fawr, gan dynnu sylw at sut y bydd rheoli anemia yn effeithiol yn cyflwyno gwerth i gleifion o ran canlyniadau a phrofiad.

Gyda chefnogaeth Gwerth mewn Iechyd Cymru, mae'r tîm Anemia Amdriniaethol - sy'n cynnwys Dr Caroline Evans (Arweinydd Clinigol), Stephanie Ditcham (Arweinydd Rhaglen) a Chris Jones, Krystle Towell a Joanne Gregory (Cydlynwyr Clinigol Anaemia Rhanbarthol) bellach yn symud i gam nesaf y rhaglen, gyda'r nod o gefnogi newid mewn prosesau ar draws pob bwrdd iechyd.

Yn ogystal, mae pecyn hyfforddi Rheoli Gwaed Cleifion (PBM) ar gyfer gweithwyr proffesiynol meddygol a gofal iechyd yn cael ei ddatblygu a'i weithredu ar draws Cymru.

Dewch o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.

Gwnewch apwyntiad heddiw