Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Gwnewch Waed yn Fusnes i Chi

Yn galw ar fusnesau ledled Cymru: mae angen eich help arnom i achub bywydau.

Gallai fod angen rhodd gwaed, platennau neu fêr esgyrn ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn eu bywyd

Donor before giving blood

Sut i helpu

Ein gwaith ni yw sicrhau bod y rhoddion amhrisiadwy hynny ar gael i'r rhai sydd eu hangen. Ond ni allwn wneud hyn heboch chi.

Dyna sut y gallwch chi helpu.

Mae angen i fusnesau ledled Cymru chwarae eu rhan i helpu i achub bywydau. Gallwch wneud hynny drwy weithio gyda ni i ledaenu’r gair ynghylch pam mae rhoi gwaed, platennau a mêr esgyrn, ac annog mwy o bobl i roi, mor bwysig.

Beth i'w ddisgwyl Cwis cymhwysedd Straeon hapus

Dyma pam y dylai eich gweithle ymuno...

Gallech wneud gwahaniaeth enfawr drwy annog eich gweithwyr a'ch cysylltiadau i gyfrannu, drwy greu cyfleoedd i bobl gyfrannu yn eich sefydliad.

Mae alinio â Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ffordd wych o ddangos eich cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a chodi proffil eich sefydliad.

Mae llawer o bethau y gallech eu gwneud i helpu i gynyddu nifer y rhoddion rydym yn eu casglu bob blwyddyn.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Annog eich gweithwyr a rhwydweithiau rhanddeiliaid i gofrestru i ddod yn rhoddwyr gwaed, mêr esgyrn a phlatennau.
  • Caniatáu i weithwyr roi gwaed yn ystod oriau gwaith, os gall eich busnes drefnu hyn.
  • Cynnal digwyddiadau rhoi gwaed ar eich safle, neu'n lleol, i'n helpu i recriwtio mwy o roddwyr.

Staff 16-45 oed

Mae angen rhagor o bobl ifanc 16 i 45 oed i ymuno â ni yn y frwydr yn erbyn canser y gwaed.

Ni fydd tri o bob deg claf canser y gwaed y mae angen trawsblaniad mêr esgyrn arnynt yn dod o hyd i fêr esgyrn addas.

Rydym am newid hyn, ond mae angen eich help arnom.

Rhagor o wybodaeth

Os na all eich gweithle ymuno...

Gallwch chi dal helpu!

Dechreuwch eich taith achub bywydau eich hun heddiw.

Rhoi gwaed

Dyma restr o'n cefnogwyr gwych yn y gweithle