Rhywbeth bach i ddiolch i chi am bopeth rydych chi’n wneud.
Rydym eisiau i bob rhodd unigol deimlo'n arbennig oherwydd ein bod ni’n gwybod y gwahaniaeth y gall pob rhodd ei gwneud i gleifion mewn angen.
Fel diolch am helpu i achub bywydau, dyma sut rydym yn cydnabod rhoddion carreg filltir.
Rhoddwyr sy’n rhoi gwaed am y tro cyntaf
Mae tua thri y cant o'r boblogaeth gymwys yng Nghymru yn rhoi gwaed.
I'ch croesawu i'n tîm achub bywyd, byddwch yn derbyn llythyr diolch a'ch cerdyn rhoddwr glas cyntaf a'ch ffob allwedd ar ôl eich rhodd gyntaf. Bydd hyn yn helpu i wella'r broses gofrestru y tro nesaf y byddwch yn rhoi gwaed.
5ed rhodd
Un o'r cerrig milltir anoddaf i'w gyflawni yw'r 5ed rhodd, gan mai ychydig iawn o bobl sy'n rhoi o leiaf un rhodd sy'n cyrraedd yr ail garreg filltir bwysig hon.
Hoffem ddiolch i chi drwy roi cerdyn rhoddwyr melyn i chi, a ffob allwedd.
10fed rhodd
Gallai rhoddwyr sydd wedi rhoi deg rhodd fod wedi helpu hyd at 30 o gleifion mewn angen, gan fod gan bob un rhodd y potensial i achub tri bywyd.
Hoffem ddiolch i chi drwy roi cerdyn rhoddwr efydd newydd, ffob allwedd a bathodyn pin i chi gyda 10fed rhodd arno.
25ain rhodd
I roddwyr gwaed cyflawn, mae cyrraedd 25 o roddion gwaed yn golygu treulio tua diwrnod cyfan yn ein sesiynau rhoi gwaed, a thros ddwy awr yn rhoi gwaed yn gorfforol i gleifion mewn angen.
Hoffem ddiolch i chi drwy roi cerdyn rhoddwr arian newydd, ffob allwedd a bathodyn pin i chi gyda 25ain rhodd arno.
50fed rhodd
Mae cyrraedd 50 o roddion gwaed cyflawn yn cymryd o leiaf 11 mlynedd i ddynion ac 16 blynedd i fenywod, ond mewn gwirionedd, mae'r garreg filltir hon yn debygol o gymryd llawer mwy o amser. Ar gyfer rhoddwyr platennau, o ystyried bod rhodd gyffredin yn cymryd tua 90 munud, mae cyrraedd 50 o roddion yn golygu treulio bron i 25 awr ar gadair i helpu cleifion mewn angen.
Hoffem ddiolch i chi drwy roi cerdyn rhoddwr aur a choch, ffob allwedd, bathodyn pin gyda 50fed rhodd arno, gwahoddiad i’n seremoni gwobrwyo rhoddwyr, a thystysgrif a gwobr goffa i chi.
75fed rhodd
Mae'r garreg filltir hon yn cymryd o leiaf 20 mlynedd i ddynion neu 25 mlynedd i fenywod ei chyrraedd. Gan y gall pob rhodd helpu hyd at dri chlaf mewn angen, gallai'r garreg filltir hon olygu bod swm anhygoel o 225 o gleifion wedi elwa o'r rhoddion.
Hoffem ddiolch i chi drwy roi cerdyn rhoddwr aur, ffob allwedd, bathodyn pin gyda 75ain rhodd arno, gwahoddiad i’r seremoni gwobrwyo rhoddwyr, tystysgrif a gwobr goffa i chi.
100fed rhodd
Y garreg filltir fwyaf fawreddog i'n rhoddwyr gwaed. Er mwyn i roddwr gwaed gyrraedd cant o roddion, mae'n cymryd o leiaf tri degawd ac mae'n cyfateb i achub tua 300 o gleifion. Ar gyfer rhoddwyr platennau, mae'r garreg filltir hon yn golygu treulio tua 50 awr ar gadair i helpu cleifion mewn angen.
Hoffem ddiolch i chi drwy roi cerdyn rhoddwr gwyn, ffob allwedd, bathodyn pin gyda 100fed rhodd arno, eich gwahodd i’r seremoni gwobrwyo rhoddwyr, tystysgrif a gwobr goffa i chi.