Cafodd Martin Nicholls, 57 oed, ddiagnosis o lewcemia dair blynedd yn ôl a dechreuodd driniaeth i oresgyn y clefyd ym mis Ionawr 2023. yn galw ar fwy o bobl i roi gwaed, platennau, neu mêr esgyrn gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru.
Ers hynny, mae Martin wedi derbyn tua 25 uned o waed oherwydd bod ei gyfrif gwaed yn disgyn yn beryglus o isel. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth Martin yn ddibynnol ar drallwysiad, ac roedd angen sawl trallwysiad gwaed bob pythefnos am dri mis. Yn ffodus, fe wnaeth y trallwysiadau a gafodd Martin helpu i sefydlogi ei gyflwr, a chaniatáu iddo barhau â'i driniaeth canser a'i fywyd dydd i ddydd, gan gynnwys ei waith fel Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Abertawe.
Cyn i ddiagnosis Martin ei atal rhag rhoi gwaed, roedd Martin wedi bod yn rhoi gwaed yn gyson. Mae bellach yn gobeithio y bydd ei stori yn annog mwy o bobl i ddod ymlaen a chefnogi cleifion sydd angen gwaed, platennau a mêr esgyrn.