Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Dim yn gallu rhoi gwaed?

Dim yn gallu rhoi gwaed? Rydym eich angen chi o hyd.

Dysgwch fwy am sut y gallwch helpu i achub bywydau yng Nghymru isod.

Beth allwch chi ei wneud os nad ydych chi’n gymwys i roi gwaed

Mae sawl ffordd arall o'n cefnogi a helpu i achub bywydau ar draws Cymru. Gallwch wneud gwahaniaeth drwy ledaenu'r gair am Wasanaeth Gwaed Cymru, a chael cymaint o bobl â phosibl i ystyried dod yn rhoddwr gwaed, platennau neu fêr esgyrn.

Darllenwch fwy am sut y gallwch gymryd rhan yn yr ymgyrchoedd rydym yn eu rhedeg i annog pobl i roi gwaed.

Sut allwch chi helpu

Rydym angen gwneud yn siŵr bod pobl yn cofrestru fel rhoddwyr gwaed, a bod rhoddwyr presennol yn parhau i roi gwaed fel bod lefel ein stociau gwaed yn iach.

Un ffordd y gallwch wneud hyn yw drwy ein helpu i gyfleu'r pwysigrwydd o roi gwaed ar draws Cymru. Boed hynny drwy ddweud wrth ffrindiau a theulu pam y dylent roi gwaed, neu drwy siarad â chydweithwyr amdanom. Gallwch ein helpu drwy:

  • Arddangos poster yn y gwaith neu yn eich ardal leol
  • Hyrwyddo ein clinigau rhoi gwaed gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr
  • Rhannu adnoddau am y gwahaniaeth mae rhoi gwaed yn gallu ei wneud sy’n gallu achub bywydau

Mae gennym lwyth o adnoddau i chi eu darllen a'u rhannu yn ein hadran cefnogwyr i annog eraill i roi gwaed.