Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Dyfarnu cyllid i dreial clinigol cyntaf Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae Dr Chloë George, Pennaeth Datblygu Cydrannau Gwaed yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, wedi derbyn Gwobr Datblygu Treialon Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dyma'r cyntaf i'r gwasanaeth gwaed gan fod Chloë yn bwriadu symud i'r maes ymchwil clinigol a datblygu hap-dreial dan reolaeth ar gyfer defnyddio platennau sy'n cael eu storio'n oer yn yr amgylchedd cyn-ysbyty.

"Er fy mod yn ymchwilydd profiadol, nid wyf wedi datblygu a chynnal treial clinigol o'r blaen. “Bydd y wobr hon yn fy nghefnogi i ddysgu am sefydlu treial, o ddylunio astudiaethau, dulliau ystadegol a dadansoddi cost-effeithiolrwydd i drafod prosesau cymeradwyo’r treialon a chael cyllid.

Byddaf yn gweithio gyda mentor profiadol iawn, Dr Kym Carter o Uned Treialon Abertawe. Mae'r uned hefyd wedi gweithio o'r blaen gyda'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, sy'n gydweithwyr allweddol ar gyfer y treial hwn. 

Mae hyn yn golygu y gellir teilwra fy mentora a'm hyfforddiant yn benodol i ofynion cynnal treialon clinigol yn yr amgylcheddau brys cymhleth hyn, gan ddarparu ar gyfer realiti darparu gofal brys wrth sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau rheoleiddiol sy'n ymwneud â threialon clinigol."

Dr Chloë George

Mae ein hymchwil wedi dangos bod platennau sydd wedi'u storio'n oer yn cynnal eu swyddogaeth gwaedataliol pan gânt eu cludo gyda gwaed yn y blychau oeri rheweiddiedig goddefol a ddefnyddir gan Ambiwlans Awyr Cymru. Y cam nesaf yw datblygu treial clinigol i asesu eu defnydd mewn cleifion â gwaedlif trawmatig mawr yn yr amgylchedd cyn-ysbyty.

"Y treial rydyn ni'n ei gynnig byddai'r treial clinigol cydran gwaed newydd cyntaf mewn cleifion wedi'i gynllunio a'i redeg gan Wasanaeth Gwaed Cymru (GGC) a'r treial cyntaf gan ddefnyddio platennau wedi'u storio'n oer yn y DU. 

Y nod yw profi a yw trallwysiad platennau wedi'u storio'n oer cyn mynd i'r ysbyty gyda'r driniaeth gofal safonol yn well na gofal safonol yn unig pan fydd cleifion yn cael digwyddiadau gwaedu sy'n peryglu bywyd. 

Hoffwn ddiolch i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am ddyfarnu'r cyllid hwn i mi. Bydd y gefnogaeth yn fy ngalluogi i neilltuo dau ddiwrnod yr wythnos i ganolbwyntio ar ddatblygu protocol y treial ac yn caniatáu i mi ymgolli yn y broses."

Dr Chloë George

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni a Chyfarwyddwr Dros Dro ar y Cyd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Unwaith eto rydym yn falch o allu darparu cyllid ar gyfer amrywiaeth o wobrau personol a phrosiect a fydd yn cefnogi datblygiad ein hymchwilwyr wrth fynd i'r afael â meysydd pwysig o ran anghenion iechyd a gofal."

Ychwanegodd yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Roedd y ceisiadau a gyflwynwyd i'r rownd ddiweddaraf o wobrau personol unwaith eto yn gymhellol ac yn amrywiol. Edrychwn ymlaen at eu croesawu i gymuned ymchwilwyr Cyfadran Cymru Gyfan a gobeithio y bydd y cyllid hwn yn eu galluogi i wneud cynnydd ystyrlon wrth ddatblygu eu gyrfaoedd ymchwil yn eu meysydd dewisol."

Health and care research wales logo