Ym mis Medi eleni cymhwysodd Dr Chloë George fel Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, y cyntaf mewn meddygaeth trallwyso yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru.
Edrychodd ei phrosiect ar fetabolaeth platennau mewn amgylcheddau storio oer a chymharu hynny â phlatennau sy'n cael eu storio ar dymheredd ystafell safonol.
Mae platennau angen egni i gyflawni eu swyddogaeth yn y corff a'r syniad oedd gweld a yw'r platennau, pan gânt eu storio ar dymheredd oer, yn mynd i ffurf o stasis lle nad ydynt yn defnyddio llawer o egni a allai hwyluso cyfnodau storio hirach.
Perfformiwyd yr ymchwil hwn gyda phlatennau gan roddwyr afferesis, a chadarnhaodd ymchwil a wnaed gan eraill ledled y byd - nid oedd proffiliau bio-egnïol yn dangos gwahaniaeth sylweddol rhwng platennau gan un rhoddwr a storir yn oer o'u cymryd a rhai wedi'u storio mewn tymheredd ystafell. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod marcwyr metabolaidd eraill yn awgrymu bod yr oerfel yn arafu metabolaeth.
Y cam nesaf yw profi platennau cyfun wedi'u storio'n oer gan ddefnyddio platennau cyfun gan bedwar rhoddwr, sef y broses arferol ar gyfer gweithgynhyrchu rhoddion platennau.
Y gobaith yn y dyfodol yw y bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn arwain treial clinigol i brofi'r defnydd o blatennau sydd wedi'u storio'n oer yn yr amgylchedd cyn ysbyty mewn cydweithrediad â'r Gwasanaethau Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS).