Gwasanaethau gwaed a thrawsblannu ar gyfer y dyfodol
Mae Strategaeth Gwasanaeth Gwaed Cymru yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gwaed a thrawsblannu yng Nghymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’n amlinellu ble’r ydym ni nawr, ble yr hoffwn fod yn 2028 a’r camau a gymerwn i gyrraedd y fan honno.
Yn bwysig, mae’n disgrifio sut byddwn yn cydweithio â’n staff, rhoddwyr, cleifion a chymunedau i sicrhau eu bod yn cael profiad diogel a phleserus, sy’n helpu i wella eu hiechyd a lles yn gyffredinol; ynghyd â’n rôl o ran gwneud cyfraniad ehangach i’r cymunedau a’r gymdeithas rydym yn eu gwasanaethu.